MAE llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn eich herio i 'wneud rhywbeth gwahanol' ym mis Ionawr eleni, boed yn gwneud crefft, hobi, chwaraeon, neu hyd yn oed yn darllen llyfr.

Bydd llawer o weithgareddau mewn llyfrgelloedd lleol i helpu i ysbrydoli, gan gynnwys arddangosiadau celf a chrefft, arddangosfeydd llyfrau, gwau, a dysgu sut i chwarae gwyddbwyll.

Mae dysgu rhywbeth newydd yn ffordd wych o wneud i chi deimlo'n dda ac adeiladu eich hyder.

Yn ogystal â dysgu rhywbeth newydd, mae'n bwysig cysylltu â phobl eraill, cymryd amser i gael sgwrs â ffrindiau a theulu, a chwrdd â phobl newydd.

Gallech ymuno â grwp darllen yn y llyfrgell.

Os na allwch gyrraedd y llyfrgell, beth am lawrlwytho eLyfrau neu eLyfrLlafar o Borrowbox, sydd ar gael am ddim, o adref 24/7, gyda'ch cerdyn llyfrgell?

Dyma rai o'r gweithgareddau y byddwch yn dod o hyd iddynt mewn llyfrgelloedd lleol, a gallwn eich cyfeirio at fwy:

Dydd Llun, Ionawr 20 (10.30am-12pm): Creu Jar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn Llyfrgell Rhuddlan.

Dydd Llun, Ionawr 20 (9.30am-2.45pm): Argraffu bloc yn Llyfrgell Dinbych.

Dydd Llun, Ionawr 20 (10am-12pm): Gweu, Sgwrs a Phaned yn Llyfrgell Llangollen.

Dydd Llun, Ionawr 20 (2-3.30pm): Creu Jar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn Llyfrgell Llangollen.

Dydd Llun, Ionawr 20 (2-3.30pm): Creu Jar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn Llyfrgell Rhuthun.

Dydd Mawrth, Ionawr 21 (11.30am-12.30pm) Arfon Wyn yn Llyfrgell Dinbych- cerddoriaeth a chanu yn y Gymraeg a'r Saesneg, dan arweiniad y cerddor adnabyddus Arfon Wyn.

Dydd Iau, Ionawr 23 (10am-12pm): Sesiwn celf a chrefft yn Llyfrgell Corwen gyda'r artist lleol Jude Wood.

Dydd Gwener, Ionawr 24 (9.30am-2.45pm): Argraffu carbon a collage - delweddau o Ddinbych yn Llyfrgell Dinbych.

Dydd Gwener, Ionawr 24 (10.30am-12pm): Creu Jar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn Llyfrgell Llanelwy.